Diweddarwyd: 26 Mai 2018
Mae InLink Limited wedi ymrwymo i barchu a diogelu eich preifatrwydd. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn ('Hysbysiad Preifatrwydd') yn disgrifio pwy ydym, pa ddata byddwn yn casglu, sut byddwn yn casglu’r data a beth a wneir gyda’r data. Cliciwch 'manylion pellach', ble’n gymwys, am wybodaeth bellach am ein gweithgareddau.
Amdanom ni
Mae InLink Limited ("InLinkUK", "ni" ac "ein") yn gwmni corfforedig yn Lloegr gyda swyddfa gofrestredig yn Met Building, 22 Percy Street, London, England W1T 2BU. Rhif y cwmni yw 09977808. Nodir ein manylion cyswllt isod yn adran 'Cysylltu' yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn.
Cyflwyniad
Byddwn yn casglu, defnyddio a rhannu gwybodaeth amdanoch wrth i chi ddefnyddio ein hunedau cyfathrebu cyhoeddus ("InLinks"), sy’n cynnwys llechi graffig at ddefnydd cyhoeddus, defnyddio rhwydweithiau rhyngrwyd diwifrau a defnydd o wasanaethau a chyfleusterau eraill a ddarperir drwy InLinks (ar y cyd ag InLinks, y "Gwasanaethau").
Darperir y gwasanaethau gan InLinkUK, gyda BT plc ("BT") fel gweithredwr amryw wasanaethau, yn cynnwys y tudalennau cofrestru wifi, gwasanaethau cymorth a mynediad i’r rhyngrwyd. Bydd BT yn prosesu unrhyw ddata personol bydd yn casglu neu’n derbyn wrth ddarparu’r gwasanaethau hyn ar ein rhan. Nid yw InLinkUK yn asiantaeth, swyddfa, adran nac yn gwmni cyswllt BT.
Darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ofalus er mwyn deall sut byddwn yn trin eich data personol. Sylwch yn benodol ar yr adrannau "Trosglwyddo Data Rhyngwladol" ac "Eich Hawliau". Byddwn yn cadw’r hawl i addasu’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn ar unrhyw amser, felly awgrymwn eich bod yn ei adolygu’n rheolaidd. Bydd y pennawd "Diweddarwyd" uchod yn nodi dyddiad diweddaru diwethaf yr Hysbysiad Preifatrwydd. Os byddwn yn gwneud unrhyw newid(iadau) perthnasol i’r Hysbysiad Preifatrwydd, byddwn yn hysbysu defnyddwyr wifi cofrestredig drwy ebost (cyn belled byddwch wedi darparu cyfeiriad ebost addas) cyn gwneud y fath newid(iadau).
Cliciwch yr adrannau isod er mwyn dysgu mwy am ein Hysbysiad Preifatrwydd:
GWYBODAETH GALLWN GASGLU AMDANOCH
Gallwn gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo data personol i chi megis data hunaniaeth, data cyswllt, data a ddefnyddir er hwyluso eich defnydd o’r Gwasanaethau a data technegol a disgrifir pob un yn fwy manwl isod. Fe allwn wneud eich data personol yn anhysbys er mwyn atal eich adnabod a byddwn yn defnyddio’r fath wybodaeth yn unol â’r disgrifiad isod. Yn ogystal, pan fydd angen er mwyn diwallu cyfrifoldebau o dan y gyfraith, byddwn yn cofnodi’r gwefannau byddwch yn ymweld â nhw a’ch cyfeiriad IP wrth ddefnyddio ein Gwasanaethau.
+ Manylion pellach...
Data hunaniaeth
Yn cynnwys eich enw cyntaf, enw olaf, enw defnyddiwr neu ddull adnabod tebyg a’r teitl.
Data cyswllt
Yn cynnwys eich ebost, rhifau ffôn, enwau cyfryngau cymdeithasol ac unrhyw fanylion cyswllt eraill byddwch yn darparu i ni wrth fyned ar a defnyddio ein Gwasanaethau.
Data gwasanaethau
Yn cynnwys gwybodaeth a ddefnyddir i hwyluso eich mynediad i, a defnyddio a derbyn y Gwasanaethau, megis ceisiadau URL, cyfeiriadau IP (internet protocol), gwybodaeth arall angenrheidiol er darparu mynediad i’r Gwasanaethau, a data personol arall byddwch yn cyflwyno i ni wrth ddefnyddio, myned ar neu ddefnyddio’r Gwasanaethau (er enghraifft wrth lenwi ffurflenni ac ymateb i arolygon, ac wrth ddarparu ymateb i ni).
Data technegol
Yn cynnwys cyfeiriadau MAC ac IP, gosodiadau parthau amser, ategion a fersiynau porwyr, system & platfform gweithredu, math dyfais, cydraniad sgrin, gwneuthurwr a model, faint o ddata bydd eich dyfais yn defnyddio wrth fyned ar a defnyddio’r Gwasanaethau, dynodwyr dyfeisiadau, a gwybodaeth am ddyddiad ac amser eich cysylltiad Wi-Fi, hyd eich cysylltiad Wi-Fi a lleoliad yr InLink sy’n darparu eich cysylltiad Wi-Fi.
Gwybodaeth anhysbys
Gallwn gyfuno data gwasanaethau, data technegol a data nid-personol am eich defnydd o’r Gwasanaethau gyda gwybodaeth debyg am ddefnyddwyr eraill mewn modd anhysbys. Wrth ddefnyddio’r term ‘anhysbys’ (anonymised), byddwn yn cyfeirio at ddata a gwybodaeth y gellir cael o’ch data personol, ond nad yw’n gallu datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol neu anuniongyrchol ac felly ni ystyrir yn ddata personol o dan y gyfraith.
Casglu gwybodaeth arall
Ni fydd InLinkUK yn gofyn am ddata personol sensitif (ee gwybodaeth am darddiad hiliol neu ethnig, barnau gwleidyddol, crefydd neu gredoau eraill, iechyd, biometreg neu nodweddion geneteg, cefndir troseddol). Ac ni fyddwn yn gofyn am eich Rhif Yswiriant Cenedlaethol neu unrhyw rif cerdyn credyd. Peidiwch â darparu’r fath wybodaeth i ni drwy’r Gwasanaethau, negeseuon ebost, ffurflenni ymateb neu mewn unrhyw ffordd arall. Os byddwch yn anfon neu ddatgelu data personol sensitif i ni wrth gyflwyno cynnwys defnyddiwr i’n Gwasanaethau, neu ein gwasanaethau cymorth, byddwn yn cymryd eich bod yn rhoi caniatâd i ni brosesu’r data personol sensitif hwnnw am y rhesymau yr anfonwyd neu datgelwyd i ni.
CASGLU EICH DATA PERSONOL
Byddwn yn casglu data personol gennych ac amdanoch wrth ddefnyddio amryw ddulliau yn cynnwys:
-
Rhyngweithio uniongyrchol: efallai byddwch yn darparu data personol wrth gofrestru gyda ni, tanysgrifio i a/neu fyned at neu ddefnyddio’r Gwasanaethau, wrth lenwi ffurflenni, bod yn rhan o gystadleuaeth neu hyrwyddiad, a phan fyddwch yn cysylltu â ni drwy’r post, ffôn, ebost, cyfryngau cymdeithasol neu fel arall
-
Technolegau: gallwn hefyd gasglu data personol wrth ddefnyddio cwcis, cofnodion gweinyddion a thechnolegau tebyg.
DEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL
Byddwn ond yn prosesu eich data personol yn unol ag amodau deddfau diogelu data a phreifatrwydd cymwys.
Gan fwyaf, byddwn yn defnyddio eich data personol at y dibenion isod:
- Rheoli eich mynediad i a defnydd o’r Gwasanaethau
- Cysylltu â chi, megis os byddwch yn cysylltu â’n tîm gwasanaeth cwsmeriaid
- Gweithredu, cynnal a gwella’r Gwasanaethau
- Anfon gwybodaeth am y Gwasanaethau atoch, megis newidiadau i’r telerau defnyddwyr, yr hysbysiad preifatrwydd hwn a diweddariadau i nodweddion y Gwasanaethau
- Cynnal diogelwch y Gwasanaethau
- Cydymffurfio â deddfau a rheoliadau cymwys i ni
- Deall sut y defnyddir ein Gwasanaethau
- Cyfathrebu barn ein defnyddwyr
- Darparu cynnwys byddwch wedi gofyn amdano
Er mwyn defnyddio eich data personol, rhaid i ni gael sail gyfreithiol am wneud hynny. Esbonnir y seiliau cyfreithiol byddwn yn dibynnu arnynt yn yr adran "manylion pellach" isod. Yn gryno dyma nhw:
- Pan fydd angen gweithredu contract byddwn am neu wedi arwyddo gyda chi
- Pan fydd angen er cynnal ein diddordebau cyfreithlon (neu rai trydydd parti) a’r diddordebau hynny heb eu gwrthwneud gan eich diddordebau chi a hawliau sylfaenol sydd angen eu diogelu
- Pan fyddwn angen cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol
Yn gyffredinol, ni fyddwn yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol ac eithrio pan fyddwn am bostio eich ymateb ar sail briodoledig neu er darparu cynnwys byddwch wedi gofyn amdano.
+ Manylion pellach...
Y dibenion pam byddwn yn defnyddio data personol amdanoch, a pha seiliau cyfreithiol byddwn yn dibynnu arnynt er gwneud hynny:
Diben |
Sail brosesu gyfreithiol |
Rheoli eich mynediad i a defnydd o’r Gwasanaethau |
Gweithredu contract gyda chi |
Ymateb i’ch cwestiynau a sylwadau a darparu gwasanaeth cwsmeriaid |
a) Gweithredu contract gyda chi
b) Diddordebau busnes cyfreithlon (er gwella gwasanaeth cwsmeriaid)
|
Gweithredu, cynnal a gwella’r Gwasanaethau, yn cynnwys gweinyddiaeth, gweithredu mewnol, taclo problemau, dadansoddi data, profi, ymchwilio, a dibenion ystadegol ac arolygu |
Diddordebau busnes cyfreithlon (er astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynnyrch a gwasanaethau, er mwyn eu datblygu, tyfu ein busnes a gwella ein Gwasanaethau) |
Anfon gwybodaeth atoch am y Gwasanaethau, fel diweddaru ein telerau defnyddwyr, yr hysbysiad preifatrwydd hwn a diweddaru nodweddion y Gwasanaethau |
a) Gweithredu contract gyda chi
b) Diddordebau busnes cyfreithlon (er astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynnyrch a gwasanaethau, er mwyn eu datblygu, tyfu ein busnes a gwella ein Gwasanaethau)
|
Cynnal diogelwch y Gwasanaethau |
Angenrheidiol er cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol |
Cydymffurfio â deddfau a rheoliadau, ceisiadau cyfreithlon a phrosesau cyfreithiol, yn cynnwys ymateb i geisiadau gan y cyhoedd ac awdurdodau llywodraethol, ac er diogelu ein hawliau, preifatrwydd, diogelwch neu eiddo, a/neu rhai chi neu eraill, fel y credwn bydd angen |
a) Angenrheidiol er cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
b) Diddordebau busnes cyfreithlon (er diogelu hawliau ni ac eraill)
|
Deall sut mae’r Gwasanaethau yn cael eu defnyddio yn cynnwys patrymau defnydd a thueddiadau |
Diddordebau busnes cyfreithlon (er astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynnyrch a gwasanaethau, er mwyn eu datblygu, tyfu ein busnes a gwella ein Gwasanaethau) |
Cyfathrebu barn ein defnyddwyr - gallwn bostio eich enw cyntaf ac olaf ynghyd â’ch ymateb ar ein Gwasanaethau |
Os byddwch wedi rhoi caniatâd i wneud hynny |
Darparu cynnwys byddwch wedi gofyn amdano, ynghyd ag unrhyw wybodaeth angenrheidiol er mwyn elwa o’r cynnwys, ar eich dyfais ar ôl rhyngweithio â’r llechen ar yr InLink. |
Os byddwch wedi rhoi caniatâd i wneud hynny |
Gallwn ddefnyddio data a gwybodaeth agreg a/neu anhysbys er gwneud y dilynol:
- Gweithredu, cynnal a gwella’r Gwasanaethau a datblygu gwasanaethau newydd
- Deall sut mae’r InLinks a gwasanaethau eraill yn cael eu defnyddio, yn cynnwys patrymau a thueddiadau defnydd
- Cyhoeddi ymateb ar sail nad oes modd ei phriodoli
- Darparu hysbysebion perthnasol ar yr InLinks
- Mesur neu ddeall effeithiolrwydd hysbysebion ar yr InLinks a gwella effeithiolrwydd yr hysbysebion hynny
RHANNU EICH DATA PERSONOL
Ni fyddwn yn gwerthu eich data personol ac ni fyddwn yn rhannu eich data personol gydag unrhyw drydydd parti er defnydd y trydydd parti hwnnw, ac eithrio’n unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn.
Data personol
Gallwn rannu eich data personol gyda:
- Trydydd parti sy’n caffaelio’r cwmni neu fwyafrif o asedau’r cwmni, os bydd y trydydd parti hwnnw’n cael yr hawl i ddarparu’r Gwasanaethau a bydd yn destun amodau’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn
- Cwmnïau cyswllt & trydydd partïon eraill yn unol â’r isod
- Trydydd partïon y mae’n rhaid i ni rannu gwybodaeth amdanoch chi gyda nhw
+ Manylion pellach...
Gallwn rannu eich data personol gyda thrydydd partïon sy’n darparu cynnyrch neu wasanaethau ar ein cyfer ni neu chi, megis:
- ein perchnogion Primesight Limited ac Intersection Holdings, LLC a chwmnïau cyswllt ni a nhw a chwmnïau eraill yn y grŵp
- ein darparwyr gwasanaeth trydydd parti, isgontractwyr ac asiantau
- darparwyr gwasanaethau technoleg gwybodaeth, isadeiledd, gwasanaethau rhyngrwyd a gwasanaeth cwsmeriaid. Er enghraifft, byddwn yn defnyddio platfform trydydd parti ar gyfer ebost ac yn methu cyfathrebu gyda chi heb ddatgelu eich cyfeiriad ebost i’n darparwr ebost trydydd parti.
Manylion pellach am ein darparwyr gwasanaethau trydydd parti, isgontractwyr ac asiantau
yma.
Gallwn rannu eich data personol gyda thrydydd partïon os byddwn o’r farn bod angen neu’n addas gwneud hynny er cydymffurfio â deddfau a rheoliadau, ceisiadau cyfreithlon a phrosesau cyfreithiol, yn cynnwys ymateb i geisiadau o awdurdodau cyhoeddus a llywodraethol, ac er diogelu hawliau, preifatrwydd, diogelwch neu eiddo ni a/neu chi neu eraill.
Gwybodaeth anhysbys
Gallwn rannu gwybodaeth anhysbys â thrydydd partïon er mwyn gweithredu, cynnal a gwella’r Gwasanaethau, datblygu gwasanaethau newydd, adrodd defnydd o’r Gwasanaethau ac er dewis a gwasanaethu hysbysebion perthnasol a chynigion i InLinks.
TROSGLWYDDO DATA RHYNGWLADOL
Gellir trosglwyddo eich gwybodaeth, yn cynnwys unrhyw ddata personol, ei storio yn, a’i brosesu gennym ni a’n cwmnïau cyswllt a thrydydd partïon eraill tu allan y wlad ble rydych yn byw, a thu allan yr Undeb Ewropeaidd, i wledydd ble na fydd rheoliadau diogelu data a phreifatrwydd yn darparu lefelau diogelwch tebyg i’r Undeb Ewropeaidd. Er enghraifft, fe allwn drosglwyddo eich data personol i’n cwmnïau cyswllt yn yr Unol Daleithiau, ac i’n darparwyr gwasanaethau trydydd parti tu allan yr Undeb Ewropeaidd (fel ein partner Hero, sydd â staff yn Honduras). Pan fyddwn yn trosglwyddo eich data personol tu allan yr Undeb Ewropeaidd, byddwn yn darparu’n un lefel o ddiogelwch wrth sicrhau dilyn un o leiaf o’r mesurau diogelwch dilynol:
- gallwn drosglwyddo eich data personol i wledydd yr ystyrir gan y Comisiwn Ewropeaidd sy’n darparu diogelwch addas ar gyfer data personol
- gallwn ddefnyddio contractau penodol a gymeradwyir gan y Comisiwn Ewropeaidd sy’n darparu’r un diogelwch ag yn Ewrop ar gyfer data personol
- gallwn ddilyn rheolau corfforaethol gorfodol, neu
- pan fyddwn yn defnyddio darparwyr yn yr Unol Daleithiau, gallwn drosglwyddo data iddynt os byddant yn rhan o’r Sgrin Ddiogelwch (Privacy Shield) sy’n mynnu eu bod yn darparu’r un diogelwch ar gyfer data personol a rennir rhwng Ewrop a’r Unol Daleithiau.
Os byddwch yn anfon neu ddatgelu unrhyw ddata personol i’n gwasanaethau cymorth, byddwch yn cydnabod ac yn derbyn y gellir trosglwyddo eich data personol tu allan yr Undeb Ewropeaidd. Byddwn yn cymryd camau rhesymol er sicrhau trin eich data yn ddiogel ac yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn.
CWCIS
Er deall mwy am y cwcis byddwn yn defnyddio a sut i’w hanablu, ewch i’n tudalen Polisi Cwcis.
.
EICH HAWLIAU A SUT I WNEUD CWYN
Mae deddfau diogelu data yn rhoi’r hawliau dilynol i chi o ran sut mae cwmnïau yn gallu storio a defnyddio eich data personol:
- gofyn ni i roi mynediad i’ch data i chi
- gofyn ni i gywiro, diweddaru neu ddileu eich data
- gofyn ni i gyfyngu ein defnydd ohono, o dan rai amgylchiadau
- gwrthwynebu ein defnydd ohono, o dan rai amgylchiadau
- dileu eich caniatâd i’n defnydd ohono
- cludadwyedd data, o dan rai amgylchiadau
- eithrio o’n defnydd o’ch data ar gyfer marchnata uniongyrchol, a
- gwneud cwyn i awdurdod goruchwylio.
+ Manylion pellach...
Os ydych yn yr Undeb Ewropeaidd, bydd yr hawliau dilynol gennych mewn cysylltiad â’ch data personol:
Eich hawl |
Manylion yr hawl |
Gofyn ni i roi mynediad i chi i’ch data personol |
Bydd yn eich galluogi i gael copi o’r data personol byddwn yn cadw amdanoch ac i wirio ein bod yn ei brosesu’n gyfreithiol.c |
Gofyn ni i gywiro neu ddiweddaru eich data personol |
Bydd yn eich galluogi i gywiro unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir byddwn yn cadw amdanoch, er efallai bydd angen i ni wirio cywirdeb y data newydd byddwch yn darparu ar ein cyfer. |
Gofyn ni i ddileu eich data personol |
Bydd yn eich galluogi i ofyn ni i ddileu neu dynnu data personol pan na fydd rheswm da dros barhau i’w brosesu. Yn ogystal bydd hawl gennych i ofyn ni i ddileu neu dynnu eich data personol ble byddwch wedi llwyddo i weithredu eich hawl i wrthwynebu’r prosesu (gweler isod), ble gallwn fod wedi prosesu eich gwybodaeth yn anghyfreithlon neu pan fydd angen i ni ddileu eich data personol er cydymffurfio â deddfau lleol. Sylwch, fodd bynnag, efallai na fyddwn bob amser yn gallu cydymffurfio â’ch cais dileu am resymau cyfreithiol penodol y byddwn yn eich hysbysu ohonynt, os yn gymwys, adeg eich cais. |
Gofyn ni i gyfyngu ein prosesu o’ch data personol |
Bydd yn eich galluogi i ofyn ni i atal prosesu eich data personol yn y senarios dilynol: (a) os byddwch am i ni wirio cywirdeb y data; (b) ble bydd ein defnydd o’r data yn anghyfreithlon ond na fyddwch am i ni ei ddileu; (c) ble byddwch angen i ni gadw’r data hyd yn oed os na fyddwch ei angen bellach er sefydlu, gweithredu neu amddiffyn ceisiadau cyfreithiol; neu (d) byddwch wedi gwrthwynebu ein defnydd o’ch data ond bod angen i ni wirio os bydd seiliau cyfreithiol gor-redol gennym i’w ddefnyddio. |
Gwrthwynebu ein prosesu o’ch data personol |
Bydd yn gymwys pan fyddwn yn dibynnu ar ddiddordeb cyfreithiol (neu rai trydydd parti) a bod rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy’n eich peri i wrthwynebu ar sail hynny gan eich bod o’r farn ei fod yn effeithio eich hawliau a rhyddid sylfaenol. Yn ogystal mae hawl gennych i wrthwynebu pan fyddwn yn prosesu eich data personol am resymau marchnata uniongyrchol. O dan rai amgylchiadau, gallwn ddangos rhesymau cyfreithiol gorfodol am brosesu eich gwybodaeth sy’n diystyru eich hawliau a rhyddid. |
Cludadwyedd eich data personol |
Byddwn yn darparu i chi, neu drydydd parti byddwch wedi dewis, eich data personol mewn fformat strwythuredig a ddefnyddir yn gyffredin ac y gellir darllen gan beiriant. Sylwch, bydd yr hawl hwn ond yn gymwys i wybodaeth otomeiddiedig a ddarparwyd gennych ar y cychwyn i ni ddefnyddio neu ble defnyddiwyd gennym er gweithredu contract gyda chi. |
Tynnu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg |
Bydd yr hawl hon yn gymwys ble byddwn yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, ni fydd yn effeithio cyfreithlondeb unrhyw brosesu a wnaed cyn i chi ddileu eich caniatâd. Os byddwch yn dileu eich caniatâd, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai cynhyrchion neu wasanaethau penodol ar eich cyfer. |
Os byddwch am weithredu unrhyw un o’r hawliau cyfreithiol uchod, cysylltwch â ni wrth ddefnyddio’r manylion yn yr adran "Cyswllt" isod. Yn eich cais, gwnewch yn glir: (i) pa ddata personol sy’n gymwys; a (ii) pa hawliau uchod yr hoffech weithredu.
Er eich diogelwch, gallwn ofyn i chi ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau ychwanegol er mwyn dilysu eich hunaniaeth cyn gweithredu eich cais. Byddwn yn ceisio ymateb i’ch ceisiadau o fewn un mis. Ar adegau, gall gymryd fwy na mis os bydd eich cais yn gymhleth iawn neu os byddwch wedi gwneud nifer o geisiadau. Bryd hynny, byddwn yn eich hysbysu ac yn adrodd ar ddatblygiadau.
Os na fyddwch yn fodlon gyda’r ffordd y defnyddiwyd eich data personol, mae hawl gennych i gofnodi cwyn gydag awdurdod arolygu diogelwch data. Mae’r manylion cyswllt yma:
http://ec.europa.eu/justice/data-protection/bodies/authorities/index_en.htm
DIOGELU EICH DATA PERSONOL
Mae diogelwch eich data personol yn bwysig i ni. Byddwn yn amgryptio data personol byddwn yn storio amdanoch. Byddwn hefyd yn amgryptio cysylltiadau wifi dyfeisiadau cytûn. Er mwyn pennu os yw eich dyfais yn gytûn, ewch yma.
Yn anffodus nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er byddwn yn ceisio diogelu eich gwybodaeth, nid oes modd gwarantu rhwystro mynediad i’ch data personol gan drydydd partïon anawdurdodedig. Chi sy’n gyfrifol am ddiogelwch eich data a drosglwyddir dros y rhyngrwyd. Unwaith byddwn yn derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn dilyn mesurau gweinyddol, technegol a materol addas ac angenrheidiol i’n helpu i ddiogelu eich gwybodaeth.
Os bydd person anawdurdodedig yn cael mynediad i’ch gwybodaeth, byddwn yn eich hysbysu cyn gynted ag y bo modd yn y cyfeiriad ebost diwethaf a ddarparwyd i ni oni fyddwn yn pennu na fydd unrhyw ddrwg yn rhesymol debygol o ddigwydd yn dilyn y datgeliad anawdurdodedig. Os byddwch o’r farn nad yw eich rhyngweithio gyda ni yn ddiogel (er enghraifft, os yn teimlo bod diogelwch unrhyw gyfrif gyda ni o dan fygythiad), hysbyswch ni o’r broblem yn syth wrth ddefnyddio’r manylion yn yr adran "Cysylltu" isod.
CADW EICH DATA PERSONOL
Byddwn ond yn cadw eich data personol am y cyfnod angenrheidiol er cyflawni amcanion yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, oni fydd angen neu os caniateir cyfnod hirach o dan y gyfraith (er enghraifft at ddibenion rheoleiddio). Os na fyddwch yn defnyddio gwasanaethau wifi InLinkUK am chwe mis, byddwn yn eich dadgofrestru o’n gwasanaethau ac yn dileu unrhyw ddata personol byddwch wedi cyflwyno fel rhan o’r broses gofrestru. Yn ogystal, bydd rhai hawliau gennych i ofyn ni i ddileu data personol yn unol ag amodau adran "Eich Hawliau" uchod.
GWASANAETHAU ERAILL
Pyrth USB
Gall uned InLinks gynnwys un porth USB neu fwy. Bydd y pyrth USB yn darparu trydan i wefru eich dyfeisiadau ac ni fyddant yn gallu casglu data o’ch dyfais.
Galwadau ffôn
Mae BT yn darparu adnoddau gwneud galwadau ffôn o’r unedau InLinks ac yn gyfrifol am yr holl ddata a gesglir neu brosesir wrth wneud galwad ffôn. Ni fydd mynediad gan InLinkUK i’r data personol a gesglir neu brosesir yn ystod galwadau ffôn ac eithrio pan wneir galwadau i’n timau cymorth.
Synwyryddion Smart City
Seiliwyd InLinks ar gynllun modwlar er mwyn ein galluogi i gasglu gwybodaeth berthnasol ar gyfer y gymuned. O ganlyniad, gallwn osod synwyryddion yn yr InLink er mwyn casglu gwybodaeth amgylcheddol amser real megis manylion llygredd aer a sŵn, tymheredd, a niferoedd traffig a cherddwyr. Bydd y synwyryddion ond yn casglu gwybodaeth anhysbys ac nid unrhyw ddata personol.
Camerâu
Mae InLinks yn cynnwys dau gamera uwch ben yr hysbysebion ac un o fewn y llechen graffig. Yn gyffredinol, ni fydd y tri chamera yn gweithredu ac nid yn cael eu troi ymlaen heb hysbysu’r cyhoedd yn y lle cyntaf.
Wifi BT a rhwydweithiau eraill a ddarperir drwy InLink
Rheolir defnydd o wasanaethau wifi BT neu drydydd partïon a ddarperir drwy InLinks gan delerau defnyddwyr a hysbysiad preifatrwydd BT Wi-Fi.
PLANT
Os ydych o dan 16 oed, nid oes hawl gennych i gyflwyno unrhyw ddata personol i InLinkUK heb ganiatâd ymlaen llaw gan riant neu warcheidwad. Os bydd rhiant neu warcheidwad yn dod yn ymwybodol fod eu plentyn o dan 16 oed wedi darparu gwybodaeth i ni heb eu caniatâd, dylent ein hysbysu’n syth wrth ddefnyddio’r manylion yn yr adran "Cysylltu" isod, yn cynnwys gwybodaeth yn cadarnhau eu cysylltiad â’r plentyn. O dan yr amgylchiadau hynny, byddwn yn dileu’r fath wybodaeth o’n ffeiliau cyn gynted ag y bydd modd.
Os byddwch am gysylltu â ni i weithredu unrhyw un o’ch hawliau a drafodwyd uchod, neu mewn cysylltiad ag unrhyw agwedd arall o’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn, ysgrifennwch at The Privacy Officer, InLinkUK, Met Building, 22 Percy Street, London, England W1T 2BU neu anfonwch ebost at
privacy_officer@inlinkuk.com
LINCIAU I SAFLEOEDD TRYDYDD PARTI
O bryd i’w gilydd gall ein Gwasanaethau gynnwys linciau i ac o wefannau ein partner rwydweithiau, hysbysebwyr a chwmnïau cyswllt. Nid yw’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn cwmpasu arferion preifatrwydd y trydydd partïon hynny. Os byddwch yn dilyn linc i unrhyw un o’r gwefannau hyn, sylwch bydd y gwefannau’n dilyn polisïau preifatrwydd eu hunain ac ni fyddwn yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd am y polisïau hynny. Cofiwch wirio’r polisïau hynny cyn cyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hynny.
Gallai rhai gwefannau byddwch yn ymweld â nhw gynnig opsiynau ynglŷn â hysbysebion byddwch yn derbyn. Am fanylion pellach neu os am ddewis peidio derbyn rhai hysbysebion arlein ymddygiadol, ewch i
http://www.aboutads.info
NEWIDIADAU I’R HYSBYSIAD PREIFATRWYDD HWN
Byddwn yn adolygu ein Hysbysiad Preifatrwydd yn rheolaidd, gyda’r copi diweddaraf bob amser yma.
Os bydd gwrthdaro rhwng fersiwn Cymraeg yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn a’r Fersiwn Saesneg, bydd y Fersiwn Saesneg yn drech.